Y Salmau 105:25-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â'i weision.

26. Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai.

27. Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.

28. Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.

Y Salmau 105