Y Salmau 105:12-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:

13. Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o'r naill deyrnas at bobl arall:

14. Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o'u plegid;

15. Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â'm rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.

16. Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.

17. Anfonodd ŵr o'u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was.

Y Salmau 105