Y Salmau 104:4-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a'i weinidogion yn dân fflamllyd.

5. Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd.

6. Toaist hi â'r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.

7. Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.

8. Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i'r lle a seiliaist iddynt.

9. Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.

10. Yr hwn a yrr y ffynhonnau i'r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.

11. Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched.

12. Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.

13. Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o'i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.

14. Y mae yn peri i'r gwellt dyfu i'r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o'r ddaear;

15. A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i'w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.

16. Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;

17. Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia.

18. Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i'r geifr; a'r creigiau i'r cwningod.

19. Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.

20. Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.

Y Salmau 104