Y Salmau 104:28-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.

29. Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i'w llwch.

30. Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.

31. Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.

Y Salmau 104