Y Salmau 103:3-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:

4. Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:

5. Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.

6. Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i'r rhai gorthrymedig oll.

7. Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.

Y Salmau 103