Y Salmau 103:17-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a'i hofnant ef; a'i gyfiawnder i blant eu plant;

18. I'r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i'w gwneuthur.

19. Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a'i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth.

20. Bendithiwch yr Arglwydd, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.

21. Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd ef; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.

22. Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o'i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr Arglwydd.

Y Salmau 103