Y Salmau 103:10-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni.

11. Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a'i hofnant ef.

12. Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.

13. Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.

14. Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym.

15. Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.

16. Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a'i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.

17. Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a'i hofnant ef; a'i gyfiawnder i blant eu plant;

18. I'r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i'w gwneuthur.

19. Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a'i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth.

Y Salmau 103