1. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.
2. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
3. Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:
4. Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:
5. Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.
6. Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i'r rhai gorthrymedig oll.