Y Salmau 102:3-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a'm hesgyrn a boethasant fel aelwyd.

4. Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fwyta fy mara.

5. Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd.

6. Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch.

7. Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ.

Y Salmau 102