Y Salmau 102:19-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr Arglwydd a edrychodd o'r nefoedd ar y ddaear;

20. I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau;

21. I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion, a'i foliant yn Jerwsalem:

22. Pan gasgler y bobl ynghyd, a'r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd.

Y Salmau 102