Y Salmau 10:7-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.

8. Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.

9. Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i'w rwyd.

Y Salmau 10