Y Salmau 10:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Paham, Arglwydd, y sefi o bell? yr ymguddi yn amser cyfyngder?

2. Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.

3. Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio.

Y Salmau 10