Y Pregethwr 9:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul; sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw.

4. Canys i'r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw na llew marw.

5. Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd.

6. Eu cariad hefyd, a'u cas, a'u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul.

7. Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan Dduw dy weithredoedd.

8. Bydded dy ddillad yn wynion bob amser; ac na fydded diffyg olew ar dy ben.

Y Pregethwr 9