Y Pregethwr 9:13-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul, ac sydd fawr gennyf fi:

14. Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a'i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn:

15. A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â'i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw.

16. Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef.

Y Pregethwr 9