Y Pregethwr 7:26-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a'i dwylo yn rhwymau: y neb sydd dda gan Dduw, a waredir oddi wrthi hi; ond pechadur a ddelir ganddi.

27. Wele, hyn a gefais, medd y Pregethwr, wrth chwilio o'r naill beth i'r llall, i gael y rheswm;

28. Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano, ac ni chefais: un gŵr a gefais ymhlith mil; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais.

Y Pregethwr 7