Y Pregethwr 7:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Na fydd ry gyfiawn; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth: paham y'th ddifethit dy hun?

17. Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffôl: paham y byddit farw cyn dy amser?

18. Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno Dduw, a ddaw allan ohonynt oll.

19. Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas.

20. Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha.

Y Pregethwr 7