Y Pregethwr 7:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth.

2. Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a'r byw a'i gesyd at ei galon.

3. Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon.

4. Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd.

5. Gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid.

Y Pregethwr 7