Y Pregethwr 6:10-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Beth bynnag fu, y mae enw arno; ac y mae yn hysbys mai dyn yw efe: ac ni ddichon efe ymryson â'r neb sydd drech nag ef.

11. Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well?

12. Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn holl ddyddiau ei fywyd ofer, y rhai a dreulia efe fel cysgod? canys pwy a ddengys i ddyn beth a ddigwydd ar ei ôl ef dan yr haul?

Y Pregethwr 6