Y Pregethwr 5:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg.

2. Na fydd ry brysur â'th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw: canys Duw sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.

3. Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau.

4. Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl.

5. Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu.

6. Na ad i'th enau beri i'th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai Duw wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo?

7. Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di Dduw.

8. Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na'r uchaf yn gwylied; ac y mae un sydd uwch na hwynt.

Y Pregethwr 5