1. Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd:
2. Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd;
3. Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu;
4. Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio;
5. Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio;
6. Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith;
7. Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd;
8. Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch.
9. Pa fudd sydd i'r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio?
10. Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo.
11. Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o'r dechreuad hyd y diwedd.
12. Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.
13. A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o'i holl lafur; rhodd Duw yw hynny.
14. Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef.
15. Y peth a fu o'r blaen sydd yr awr hon; a'r peth sydd ar ddyfod a fu o'r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.
16. Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd.