Y Pregethwr 11:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Os bydd y cymylau yn llawn glaw, hwy a ddefnynnant ar y ddaear: ac os tua'r deau neu tua'r gogledd y syrth y pren; lle y syrthio y pren, yno y bydd efe.

4. Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua; a'r neb a edrycho ar y cymylau, ni feda.

5. Megis na wyddost ffordd yr ysbryd, na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog; felly ni wyddost waith Duw, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.

6. Y bore heua dy had, a phrynhawn nac atal dy law: canys ni wyddost pa un a ffynna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud.

Y Pregethwr 11