1. Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd; canys ti a'i cei ar ôl llawer o ddyddiau.
2. Dyro ran i saith, a hefyd i wyth: canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaear.
3. Os bydd y cymylau yn llawn glaw, hwy a ddefnynnant ar y ddaear: ac os tua'r deau neu tua'r gogledd y syrth y pren; lle y syrthio y pren, yno y bydd efe.
4. Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua; a'r neb a edrycho ar y cymylau, ni feda.