Y Pregethwr 10:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwybed meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd.

2. Calon y doeth sydd ar ei ddeheulaw; a chalon y ffôl ar ei law aswy.

3. Ie, y ffôl pan rodio ar y ffordd, sydd â'i galon yn pallu, ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl.

4. Pan gyfodo ysbryd penadur yn dy erbyn, nac ymado â'th le: canys ymostwng a ostega bechodau mawrion.

5. Y mae drwg a welais dan yr haul, cyffelyb i gyfeiliorni sydd yn dyfod oddi gerbron y llywydd:

6. Gosodir ffolineb mewn graddau uchel, a'r cyfoethog a eistedd mewn lle isel.

7. Mi a welais weision ar feirch, a thywysogion yn cerdded fel gweision ar y ddaear.

8. Y sawl a gloddio bwll, a syrth ynddo; a'r neb a wasgaro gae, sarff a'i brath.

9. Y sawl a symudo gerrig, a gaiff ddolur oddi wrthynt; a'r neb a hollto goed, a gaiff niwed oddi wrthynt.

10. Os yr haearn a byla, oni hoga efe y min, rhaid iddo roddi mwy o nerth: eto doethineb sydd ragorol i gyfarwyddo.

11. Os brath sarff heb swyno, nid gwell yw dyn siaradus.

12. Geiriau genau y doeth sydd rasol: ond gwefusau y ffôl a'i difetha ef ei hun.

13. Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef: a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd.

14. Y ffôl hefyd sydd aml ei eiriau: ni ŵyr neb beth a fydd; a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef?

15. Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt: canys ni fedr efe fyned i'r ddinas.

16. Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti, a'th dywysogion yn bwyta yn fore.

Y Pregethwr 10