Titus 3:4-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn,

5. Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân;

6. Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr:

7. Fel, gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef, y'n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol.

8. Gwir yw'r gair, ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i'r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da. Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion.

9. Eithr gochel gwestiynau ffôl, ac achau, a chynhennau, ac ymrysonau ynghylch y ddeddf: canys anfuddiol ydynt ac ofer.

10. Gochel y dyn a fyddo heretic, wedi un ac ail rybudd:

Titus 3