Sechareia 8:14-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fel y meddyliais eich drygu chwi, pan y'm digiodd eich tadau, medd Arglwydd y lluoedd, ac nid edifarheais;

15. Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem, ac i dŷ Jwda: nac ofnwch.

16. Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth;

17. Ac na fwriedwch ddrwg neb i'w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr Arglwydd.

18. A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

19. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pumed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dŷ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch.

20. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer:

21. Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i'r llall, gan ddywedyd, Awn gan fyned i weddïo gerbron yr Arglwydd, ac i geisio Arglwydd y lluoedd: minnau a af hefyd.

22. Ie, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerwsalem, ac i weddïo gerbron yr Arglwydd.

Sechareia 8