Sechareia 2:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur.

2. A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi.

3. Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i'w gyfarfod ef.

Sechareia 2