Sechareia 14:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, a rhennir dy ysbail yn dy ganol di.

2. Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem: a'r ddinas a oresgynnir, y tai a anrheithir, a'r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed, a'r rhan arall o'r bobl nis torrir ymaith o'r ddinas.

3. A'r Arglwydd a â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad.

Sechareia 14