Sechareia 11:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a'r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.

10. A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn â'r holl bobl.

11. A'r dydd hwnnw y torrwyd hi: ac felly y gwybu trueiniaid y praidd, y rhai oedd yn disgwyl wrthyf fi, mai gair yr Arglwydd oedd hyn.

12. A dywedais wrthynt, Os gwelwch yn dda, dygwch fy ngwerth; ac onid e, peidiwch: a'm gwerth a bwysasant yn ddeg ar hugain o arian.

13. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Bwrw ef i'r crochenydd: pris teg â'r hwn y'm prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i'r crochenydd.

14. Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.

15. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl.

16. Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.

17. Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deau gan dywyllu a dywylla.

Sechareia 11