Sechareia 11:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A mi a borthaf ddefaid y lladdfa, sef chwi, drueiniaid y praidd. A chymerais i mi ddwy ffon; un a elwais Hyfrydwch, a'r llall a elwais Rhwymau; a mi a borthais y praidd.

8. A thorrais ymaith dri bugail mewn un mis; a'm henaid a alarodd arnynt hwy, a'u henaid hwythau a'm ffieiddiodd innau.

9. Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith; a'r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.

10. A chymerais fy ffon Hyfrydwch, a thorrais hi, i dorri fy nghyfamod yr hwn a amodaswn รข'r holl bobl.

Sechareia 11