1. Libanus, agor dy ddorau, fel yr yso y tân dy gedrwydd.
2. Y ffynidwydd, udwch; canys cwympodd y cedrwydd, difwynwyd y rhai ardderchog: udwch, dderw Basan; canys syrthiodd coedwig y gwin-gynhaeaf.
3. Y mae llef udfa y bugeiliaid! am ddifwyno eu hardderchowgrwydd: llef rhuad y llewod ieuainc! am ddifwyno balchder yr Iorddonen.
4. Fel hyn y dywed yr Arglwydd fy Nuw; Portha ddefaid y lladdfa;