Sechareia 10:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Erchwch gan yr Arglwydd law mewn pryd diweddar law; a'r Arglwydd a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes.

2. Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, ac a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.

Sechareia 10