Sechareia 1:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Oni ddarfu er hynny i'm geiriau a'm deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Megis y meddyliodd Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.

7. Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,

8. Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o'i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion.

9. Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.

10. A'r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i ymrodio trwy y ddaear.

11. A hwythau a atebasant angel yr Arglwydd, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.

12. Ac angel yr Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn?

Sechareia 1