Ruth 4:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Boas a aeth i fyny i'r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho, Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.

2. Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant.

Ruth 4