Ruth 3:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi, Fy merch, oni cheisiaf fi orffwystra i ti, fel y byddo da i ti?

2. Ac yn awr onid yw Boas o'n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda'i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu.

3. Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i'r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i'r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed.

4. A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych.

5. A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.

6. A hi a aeth i waered i'r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi.

7. Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd.

8. Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.

9. Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy lawforwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti.

Ruth 3