Ruth 2:8-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma; eithr aros yma gyda'm llancesau i.

9. Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi; a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i'r llanciau, na chyffyrddent â thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o'r hwn a ollyngodd y llanciau.

10. Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes?

11. A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i'th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a'th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o'r blaen.

12. Yr Arglwydd a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.

13. Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o'th lawforynion di.

Ruth 2