Ruth 2:7-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ.

8. Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma; eithr aros yma gyda'm llancesau i.

9. Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi; a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i'r llanciau, na chyffyrddent â thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o'r hwn a ollyngodd y llanciau.

10. Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes?

11. A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i'th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a'th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o'r blaen.

12. Yr Arglwydd a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.

13. Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o'th lawforynion di.

14. A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o'r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.

15. A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynnodd Boas i'w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni:

16. A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o'r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi.

17. Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch effa o haidd.

18. A hi a'i cymerth, ac a aeth i'r ddinas: a'i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon.

Ruth 2