20. A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwch fi Naomi; gelwch fi Mara: canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn รข mi.
21. Myfi a euthum allan yn gyflawn, a'r Arglwydd a'm dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i'r Arglwydd fy narostwng, ac i'r Hollalluog fy nrygu?
22. Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Foabes ei gwaudd gyda hi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab: a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechrau cynhaeaf yr heiddiau.