Rhufeiniaid 9:17-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Canys y mae'r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy'r holl ddaear.

18. Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.

19. Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?

20. Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn?

21. Onid oes awdurdod i'r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o'r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amarch?

22. Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth:

23. Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant,

24. Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o'r Iddewon yn unig, eithr hefyd o'r Cenhedloedd?

25. Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi; a'r hon nid yw annwyl, yn annwyl.

26. A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y gelwir hwy yn feibion i'r Duw byw.

27. Hefyd y mae Eseias yn llefain am yr Israel, Cyd byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir.

28. Canys efe a orffen ac a gwtoga'r gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byr waith a wna'r Arglwydd ar y ddaear.

29. Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen, Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had, megis Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra.

30. Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd:

31. Ac Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder.

32. Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd;

33. Megis y mae yn ysgrifenedig, Wele fi yn gosod yn Seion faen tramgwydd, a chraig rhwystr: a phob un a gredo ynddo ni chywilyddir.

Rhufeiniaid 9