Rhufeiniaid 8:36-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i'r lladdfa.

37. Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy'r hwn a'n carodd ni.

38. Canys y mae'n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod,

39. Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Rhufeiniaid 8