Rhufeiniaid 8:17-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y'n cydogonedder hefyd.

18. Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni.

19. Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw.

20. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o'i fodd, eithr oblegid yr hwn a'i darostyngodd:

Rhufeiniaid 8