13. Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy'r Ysbryd, byw fyddwch.
14. Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.
15. Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad.
16. Y mae'r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw:
17. Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y'n cydogonedder hefyd.
18. Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni.