Rhufeiniaid 7:23-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.

24. Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a'm gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon?

25. Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly gan hynny, yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â'r cnawd, cyfraith pechod.

Rhufeiniaid 7