Rhufeiniaid 3:6-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd?

7. Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau eto megis pechadur?

8. Ac nid, (megis y'n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dĂȘl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.

9. Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o'r blaen fod pawb, yr Iddewon a'r Groegwyr, dan bechod;

10. Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un:

11. Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw.

Rhufeiniaid 3