1. Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea:
2. Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a'i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
3. Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu;
4. Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i'r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd.
5. Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist.
6. Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni.
7. Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a'm cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i.
8. Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd.
9. Anerchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.
10. Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus.
11. Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.
12. Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd.
13. Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minnau.
14. Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a'r brodyr sydd gyda hwynt.
15. Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a'i chwaer, ac Olympas, a'r holl saint y rhai sydd gyda hwynt.
16. Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch.
17. Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt.
18. Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau'r rhai diddrwg.
19. Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o'ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg.