Rhufeiniaid 15:31-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Fel y'm gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint;

32. Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac y'm cydlonner gyda chwi.

33. A Duw'r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.

Rhufeiniaid 15