Rhufeiniaid 15:16-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân.

17. Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw.

18. Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o'r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred,

Rhufeiniaid 15