Rhufeiniaid 15:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain.

2. Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth.

3. Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi.

4. Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith.

Rhufeiniaid 15