Rhufeiniaid 14:6-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a'r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta; i'r Arglwydd y mae yn bwyta; canys y mae yn diolch i Dduw: a'r hwn sydd heb fwyta, i'r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw.

7. Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo'i hun, ac nid yw'r un yn marw iddo'i hun.

8. Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.

9. Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a'r byw hefyd.

10. Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist.

11. Canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd; pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw.

12. Felly gan hynny pob un ohonom drosto'i hun a rydd gyfrif i Dduw.

13. Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i'w frawd, neu rwystr.

14. Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy'r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun: ond i'r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.

15. Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.

16. Na chabler gan hynny eich daioni chwi.

17. Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.

18. Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion.

Rhufeiniaid 14