Rhufeiniaid 14:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch atoch, nid i ymrafaelion rhesymau.

2. Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail.

3. Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a'r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a'i derbyniodd ef.

Rhufeiniaid 14