Rhufeiniaid 12:17-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn.

18. Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon รข phob dyn.

19. Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd.

20. Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef.

21. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.

Rhufeiniaid 12